Pan fo'm henaid mwyaf gwresog
Pan fo'r enaid mwya' gwresog

Pan fo'r enaid mwya' gwresog
  Yn tanllyd garu'n mwya' byw,
Y mae'r pryd hynny yn fyr o gyrraedd
  Perffaith sanctaidd gyfraith Duw;
O! am gael ei hanrhydeddu
  Trwy dderbyn iechydwriaeth rad,
A'r cymundeb mwya' melys,
  Wedi ei drochi yn y gwaed.

Rhyfeddu a wna' i â mawr ryfeddod
  Pan ddêl i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl,
    sy yma'n gwibio
  Ar ôl teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragwyddol setlo
  Ar wrthrych mawr ei Berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
  Â phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.
Ann Griffiths 1776-1805

Tôn [8787D]: Noddfa (Hugh Jones 1863-1933)

gwelir:
  Arogli'n beraidd mae fy nardus
  Llwybyr cwbwl groes i natur
  O am bara i [uchel yfed / yfed beunydd]

When the soul be hottest
  In the greatest living fire of loving,
Then it is falls short of reaching
  The perfect, holy law of God;
O to get to honour it
  Through receiving free salvation,
And the sweetest communion,
  Having been dipped in the blood.

I shall wonder with great wonderment
  When the blessed hour comes to pass
I shall get to see my mind,
    which here is flitting
  After the base trinkets of the earth,
Having been eternally settled
  On the great object of His Person,
And immovably conforming
  To the pure and holy laws of heaven.
tr. 2017 Richard B Gillion
Even when the soul most ardent

















tr. H A Hodges 1905-76

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~